Agoriad Llygad

Darlun grymus a phersonol o’r gantores Bethan Richards, wrth iddi ddod i delerau â byw ei bywyd gyda nam golwg dwys. Ei brawd, y cyfarwyddwr Dylan Richards, sy’n ei helpu i adrodd ei stori, cyn iddi golli ei golwg yn llwyr.

Gair o’r cyfarwyddwr/cynhyrchydd Dylan Wyn Richards…

Mae Bethan Richards bron yn hollol ddall, mae hi hefyd yn chwaer i mi.

Mor bell yn ôl ag y gallaf gofio, mae hi wedi dioddef o olwg gwael. Ers plentyndod, mae hi wedi ceisio ei guddio o’r byd ac rwy byth wedi ei deall yn go iawn i ba raddau mae hi wedi dioddef, yn gorfforol ac yn emosiynol.

Cafodd Bethan ei geni gyda glawcoma difrifol, fel canlyniad o sawl llawdriniaeth, yn cynnwys ceisio 3 trawsblaniad cornbilen, y mwyaf mae hi’n gallu gweld yn nawr yw siapau a lliwiau. Mae hi hefyd mewn poen trwy’r amser. Mae ei golwg yn dirywio i fath raddau, cyn bo hir bydd rhaid iddi wynebu’r anochel wrth golli’i golwg yn gyfan gwbl.

Mae Agoriad Llygad yn dilyn gobeithion ac ofnau Bethan wrth iddi’n paratoi am fyd heb weledigaeth. Bydd rhaid iddi ddysgu dibynnu ar ffon a’i chi tywys Betsi er mwyn gallu gwneud pethau dydd i ddydd ein bod ni’n cymryd yn ganiataol. Ond fel mam i 2 o blant sy’n gweithio, mae rhaid i fywyd parhau, serch pa mor heriol yw e.

Mae hwn yn gyfnod arloesol yn ei bywyd, a bydda i yna i’w ddal.

Share This