BAFTA Cymru win for Velindre: Hospital of Hope
14th October 2019
Enillodd Velindre: Hospital of Hope gwobr BAFTA Cymru ar gyfer Cyfres Ffeithiol.
Mae Wildflame yn falch iawn o bawb a gymerodd ran yn y gyfres am y fuddugoliaeth haeddiannol hon, gan gynnwys aelodau o dîm ni Catrin Jones, Llinos Griffin-Williams, Claire Hill ac ein partner creadigol John Geraint. Cynhyrchwyd y gyfres hon gan Green Bay Media ar gyfer ITV Cymru, cyn iddynt ymuno â Wildflame.
‘Dwi wrth fy modd bod Velindre: Hospital of Hope wedi ennill BAFTA am gyfres ffeithiol, sy’n rhoi cydnabyddiaeth bellach i Felindre am y gwaith anhygoel maent yn gwneud. Mae canser yn cael effaith ar gymaint o bobl mewn amryw o ffyrdd ac mae’n anhygoel i gael canolfan ganser blaenllaw yma yng Nghymru sy’n cynnig triniaeth arloesol. Roedd hi’n fraint i gynhyrchu’r gyfres hon ac rwy mor ddiolchgar i’r holl staff, cyfranwyr a’u teuluoedd sydd wedi caniatáu inni ffilmio eu teithiau anodd ac wedi ymddiried ynom i adrodd eu straeon.’ Catrin Jones, Cynhyrchydd
Yn ei haraith, diolchodd Catrin y staff sy’n gweithio’n ddiddiwedd yn Felindre ac estynnodd ei diolchgarwch i’r holl gyfranwyr ar y rhaglen wrth ddweud ‘y diolch mwyaf yn mynd i’r holl gyfranwyr sydd wedi gadael inni eu dilyn, doedd hi ddim yn rhwydd iawn iddynt ond wnaethon nhw roi eu calonnau.’ Aeth Catrin ymlaen i gysegru’r wobr i Alison, Rebecca a Kev, cyfranwyr sydd yn anffodus wedi colli eu brwydr gyda chanser.
Am y gyfres…
Mae Velindre: Hospital of Hope yn bortread o Ganolfan Ganser Felindre, yn cyfleu’r straeon dynol y tu ôl i’r ystadegau a diagnosis canser.
Yn y gyfres 4 pennod, rydym yn gweld yn uniongyrchol ymroddiad y llu o staff yng Nghanolfan Canser Felindre wrth iddynt yn edrych ar ôl eu cleifion. O’r derbynyddion i radiograffwyr, seicolegwyr clinigol i borthorion, mae’r amrywiaeth hon o unigolion yn benderfynol o wneud profiad y cleifion mor gadarnhaol â phosib.
Wedi’i hadrodd gan gyflwynydd ITV Ruth Wignall, mae’r gyfres yn dilyn straeon dyrchafol ac emosiynol y cleifion wrth iddynt gael triniaeth a gwaith arloesol y staff meddygol. Mae pob rhaglen 30 munud yn cyfleu’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau y tu mewn i’r ganolfan arbennig iawn hon.
Cynhyrchwyd ar gyfer ITV Cymru gan Green Bay Media, sydd bellach yn rhan o Wildflame Productions