Cadw Cyfrinach – un o ddioddefwyr John Owen yn siarad am y tro cyntaf

“Roedd e’n galw fi draw i’w swyddfa i drafod ryw sgript neu speech ro’n i’n gweithio arno. Roedd e’n cloi y drws a thynnu zip fy nhrowsus i lawr. Roedd fy nghalon i’n suddo achos ro’n i’n gwybod beth oedd yn dod nesa.”

Dyna eiriau ysgytwol un o’r dioddefwyr a gafodd ei gamdrin gan yr athro drama John Owen.

Mewn rhaglen ddogfen newydd, Cadw Cyfrinach fydd i’w gweld ar S4C nos Fercher 7 Ebrill am 9.00 bydd un o’r dioddefwyr a oedd yn gyn ddisgybl i John Owen yn rhannu ei brofiadau, ei feddyliau a’r effaith a gafodd blynyddoedd o gamdrin ar y disgyblion hynny yn Ysgol Rhydfelen rhwng 1977 a 1992.

Dyma’r tro cyntaf iddo siarad ar gamera, ac yn sicr, mae wedi meddwl yn ddwys cyn penderfynu gwneud hynny.

“Dwi’n parchu y gweddill, y bois eraill wi mewn cysylltiad gyda nhw. Dy’ nhw ddim yn teimlo bod nhw’n gallu. Fy stori i yw hwn, ond stori ni gyd hefyd a dwi’n teimlo bod rhaid i fi gynrychioli nhw. Dyw e ddim yn hawdd, ma hwn yn massive deal. “ meddai.

“Fe wnaeth John Owen ddechrau groomio fi yn ifanc iawn wrth i fi ddechrau yn Ysgol Rhydfelen.  Do’n i ddim yn gwybod pa mor sinistr oedd y trap o’n i ynddo yn mynd i droi. Ro’n i’n joio perfformio, canu, adrodd a cystadlu – fi’n cofio meddwl reit – I must get him to notice me. Roedd e’n foi hynod o charismatic a roeddet ti eisiau iddo fe dy glodfori di.“

Yn sicr, roedd Ysgol Gyfun Rhydfelen yn enwog am fod yn ”ysgol dda”, ac roedden nhw llwyddo i gael plant o gartrefi di-gymraeg i deimlo’n angerddol am yr iaith. Roedd yr ysgol yn cynhyrchu sioeau o’r safon uchaf a byddai ysgolion cyfagos yn teithio yno yn rheolaidd i weld sioeau Rhydfelen.

“Roedden ni’n gweithio’n galed ar y sioeau yna. Roedd John Owen wastad yn mynnu teyrngarwch gennych chi. Os nad o’ch chi 100% gyda fe – ro’ch chi yn erbyn e a chi oedd y gelyn. Dyna un o’r ffyrdd roedd e’n maniwpiwleiddio ni. Oedd e’n gallu helpu fi gyda beth o’n i moyn yn fy mywyd ac roedd rhaid i fi wneud y fargen yma gyda’r diafol.”

“Fe wnes i ddechrau aros dros nos yn ei dŷ a dyma fe’n dweud, mae’n noson oer – man a man i ti rannu gwely gyda fi, a dechreuodd e gyffwrdd a fi.“

“A pan ddechreuodd yr holl gamdrin rhywiol ro’n i’n switcho off a trio rhoi fy hun yn rhywle arall. “

Er ei fod erbyn hyn, flynyddoedd yn ddiweddarach yn gallu casáu John Owen am yr hyn a wnaeth iddo, mae’n cyfaddef fod na ochr hoffus i gymeriad y dyn wnaeth ei gamdrin.

“Mi oedd e’n ddyn oedd yn rhoi llwyth o gyngor i fi, oedd na ochr addfwyn a charedig iawn iddo fe ac roedd e’n gallu tynnu pethe gwych allan ohonai. “

“Yn emosiynol, wi dal yn ddig gyda fe. Wi’n beio fe am anafu fi, ond hefyd ro’n i’n gallu neud esgusodion drosto fe a gweld e fel victim.

Fe laddodd John Owen ei hun yn 2001 cyn sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o ymosod yn rhywiol ar gyn ddisgyblion. Fe wnaeth hynny esgor ar ymchwiliad Clywch yn 2004, sef ymchwiliad gan  Peter Clarke, Comisiynydd Plant Cymru ar y pryd.

Mae’r adroddiad yn nodi na all unrhyw un a glywodd y dystiolaeth yn yr Ymchwiliad amau, â didwylledd, fod Mr John Owen yn euog o weithredoedd o anweddustra rhywiol difrifol yn erbyn rhai disgyblion yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Mae’n nodi hefyd fod y dystiolaeth wedi dangos i Mr Owen, yn ôl pwysau tebygolrwydd, gam-drin disgyblion yn ei ofal yn rhywiol dros nifer o flynyddoedd.

Bu John Owen hefyd yn sgriptio a chynhyrchu cyfres ddrama i bobl ifanc Pam Fi Duw i S4C rhwng 1997 a 2002

Yn ogystal a chlywed profiadau anodd y dioddefwr, byddwn hefyd yn clywed gan rai o actorion Pam Fi Duw a’r newyddiadurwr Eifion Glyn, fu’n gohebu ar y stori ac yn ymchwilio i hanes John Owen am flynyddoedd lawer.

A hithau bellach bron yn ugain mlynedd ers i John Owen ladd ei hun mewn carafán ym Mhorthcawl wedi iddo beidio ymddangos i sefyll ei brawf yn Llys y Goron Caerdydd, mae’r creithiau dal yn fyw ym meddyliau’r dioddefwyr.

“Y noson glywon ni fod John Owen wedi lladd ei hun, fe aethon ni gyd am ddrinc. O’r diwedd, roedd y cyfan drosodd.“

Cadw Cyfrinach
Nos Fercher, 7 Ebril 

Isdeitlau Saesneg
Ar alw: S4C Clic, BBCiPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Wildflame
ar gyfer S4C

 

Share This