Being Owen Money

BBC One Wales

Rhaglen ddogfen onest gyda’r diddanwr o Gymru, Owen Money, yn adlewyrchu’n agored ar ei fywyd, ei gariad a’i yrfa yn ystod y misoedd yn arwain at ei ben blwydd yn 70 oed.

Wrth i Owen edrych yn ôl ar ei fywyd, mae’r rhaglen hon yn cofnodi ei stori ryfeddol o uchafbwyntiau gyrfaol ac isafbwyntiau personol, o ennill dwy Wobr Radio gan Sony a derbyn MBE i’r berthynas y tu allan i’w briodas a siglodd y briodas honno i’w seiliau. Mae ei amserlen brysur yn mynd ag ef o Ŵyl Elvis ym Mhorthcawl i’r Ewros yn Ffrainc ac mae’r rhaglen ddogfen bwerus yma’n datgelu beth sy’n ei yrru, beth sydd wedi ei wneud yn enw cyfarwydd i ni, a beth sy’n gwneud iddo ddal ati ar ôl 50 mlynedd yn y busnes.

BBC 1 Wales – 15fed Mai 2017

Cynhyrchu a Chyfarwyddo: Louise Bray

Share This