Kyffin Williams: The Man Who Painted Wales
BBC Two Wales
Kyffin Williams oedd artist mwyaf poblogaidd Cymru, yn enwog am ei dirweddau mynyddig synfyfyrgar. Fodd bynnag, ni chafodd ei waith ei dderbyn yn llawn erioed gan y beirniaid na’r byd celf, a pharhaodd y dyn ei hun yn enigma.
Ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant, mae’r gyflwynwraig a’r baentwraig Josie D’arby yn olrhain llwybr Kyffin Williams fel dyn ac artist. Mae’n ymweld â’r llefydd hardd ble cafodd ei fagu a lle bu’n byw a phaentio, ar Ynys Môn ac yn Eryri a Llundain. Mae’n cyfarfod y bobl oedd yn ei adnabod orau, gan ddatgelu stori bersonol am unigrwydd, stigma a niwed emosiynol. Ond mae hi hefyd yn darganfod yn Kyffin Williams graidd o dalent, penderfyniad a pherthyn.
Gan edrych eto ar ei waith celf, mae Josie yn darganfod tirweddau, portreadau a morluniau sydd ymhlith y gorau o’u bath. Nid dim ond disgrifiadau o’r byd allanol yw’r rhain, ond mynegiant o fywyd mewnol Kyffin Williams ei hun a’i emosiynau anniddig yn aml. Cynhyrchodd Kyffin nifer enfawr o weithiau, gyda’r ansawdd yn amrywio, ond mae goreuon ei waith o safon byd ac mae’n llawn haeddu cael ei ddathlu.
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfweliadau gyda Rian Evans, awdur astudiaeth newydd fawr o Kyffin Williams; y ffotograffydd a’i fab bedydd Nicholas Sinclair; a’r hanesydd celf Peter Lord.
BBC
Cynhyrchu a Chyfarwyddo: Ian Michael Jones