The Greatest Poem of World War One: David Jones In Parenthesis
BBC One Wales & BBC Four
Ystyrir In Parenthesis fel un o’r gweithiau llenyddol gorau erioed am ryfel. Dywedodd TS Eliot ei fod yn waith athrylith; dywedodd WH Auden ei fod wedi gwneud i’r Prydeinwyr a’r Almaenwyr yr hyn a wnaeth Homer i’r Groegiaid a’r Trojans. Wedi’i chyhoeddi yn 1937, mae’r gerdd yn seiliedig ar brofiadau rhyfel personol ei hawdur, David Jones, Llundeiniwr a wirfoddolodd i frwydro ag yntau ond yn bedair ar bymtheg oed. Yn wahanol i lawer o feirdd rhyfel, bu Jones yn filwr drwy gydol y rhyfel, a brwydrodd am gyfnod hirach nag unrhyw awdur arall o Brydain.
Yn y rhaglen hon, mae’r bardd a’r awdur Owen Sheers yn olrhain stori In Parenthesis, o faes ymarfer yn Lloegr i gyflafan brwydr y Somme. Drwy ddarlleniadau o ddyfyniadau allweddol, gwybodaeth dreiddgar gan feirdd fel Simon Armitage, a chyfweliadau gydag arbenigwyr ar David Jones, mae’n tynnu sylw at y tebygrwydd rhwng y gerdd a rhyfel David Jones ei hun. Mae’n edrych ar sut daeth In Parenthesis i gael ei hysgrifennu a beth sy’n gwneud y gerdd yn waith mor aruchel. Daw ei siwrnai i ben, fel y gerdd, yng Nghoedwig Mametz yng Ngogledd Ffrainc, lle aeth David Jones i frwydr a chael profiad uniongyrchol o drais erchyll.
BBC 2 Wales, BBC 4 – 9fed Gorffennaf 2016
Cynhyrchu a Chyfarwyddo: Ian Michael Jones