Wonders of The Great Barrier Reef with Iolo Williams
S4C & BBC Four
Ar ochr arall y byd o dan ddyfroedd glas clir fel crisial y Môr Tawel mae un o’r llefydd mwyaf hudolus ar y blaned. Fwy na deng mil o filltiroedd i ffwrdd ar arfordir gogledd ddwyrain Awstralia mae’r ‘Great Barrier Reef’, un o ryfeddodau naturiol y byd. Mae’n darparu cysgod i sawl noddfa gudd i fywyd gwyllt sy’n cynnwys rhai creaduriaid morol hudolus.
Mae’r cadwriaethwr a’r naturiaethwr Iolo Williams wedi cael gwahoddiad i fynd ar antur ar y riff gan fiolegydd môr a sinematograffydd tanddwr sydd wedi ennill Gwobr Emmy, Richard Fitzpatrick. Mae Iolo’n plymio’n ddwfn o dan wyneb y môr cwrel i ddarganfod ym mha gyflwr mae’r rhyfeddod naturiol hwn. Gyda’i gilydd maent yn teithio o ymchwydd eithafol rhan ogleddol y riff bob cam i lawr i gwreli cywrain oerach y de. Maent yn darganfod pa mor iach yw’r Great Barrier Reef mewn gwirionedd yn rhai o’i lleoliadau allweddol, i weld a darganfod a oes unrhyw wir arwyddion o obaith y gall y riff oroesi bygythiad cynhesu byd-eang.
Addaswyd ar gyfer S4C, BBC Four a Dosbarthiad Rhyngwladol
Cynhyrchu a Chyfarwyddo gan Steffan Morgan