The 1900 Island
BBC One Wales/Network
Cyfres hanes byw newydd sy’n dilyn hynt a helynt pedwar teulu yn yr oes fodern wrth iddyn nhw fynd yn ôl fwy na 100 mlynedd i ddechrau’r 20fed Ganrif i roi cynnig ar fyw fel cymuned bysgota wledig ar ynys ddramatig Llanddwyn â’i llanwau gwyllt oddi ar arfordir Ynys Môn. Mae’n oes o fyw o’r llaw i’r genau wrth i’r 4 teulu wynebu realiti llym un o’r ffyrdd anoddaf o wneud bywoliaeth ym Mhrydain yn 1900.
Ym Mhennod 1 rhaid i’r teuluoedd addasu’n gyflym i’w ffordd newydd o fyw ond mae tywydd garw, diffyg profiad a dognau prin yn arwain at lwgu a rhwystredigaeth a dim ond ymdrech funud olaf gan y merched sy’n achub y dydd. Ar wahân i fanylion ymarferol byw yn 1900, mae’r teuluoedd yn ceisio creu cymuned i helpu ei gilydd drwy gyfnodau anodd a goroesi’r tywydd eithafol.
Yn ystod ail wythnos y teuluoedd, mae’r tywydd yn troi o’u plaid o’r diwedd ac mae’r dynion yn mynd allan i’r môr i geisio am ddalfa lwyddiannus. Mae’r merched yn aros ar ôl gyda’r holl dasgau diddiwedd i’w cwblhau yn y tŷ ac mae’r plant yn mynd i’r ysgol. Ond mae’r ymdeimlad bregus o gymuned yn dechrau gwegian wrth i elyniaeth a newyn ddechrau amharu ar yr oedolion. Wrth i bethau fynd yn anodd, mae’n her iddynt geisio gweithio gyda’i gilydd. Mae Gavin Davies yn benodol yn cael anhawster bwydo ei deulu a dim ond pan mae llong gargo’n galw maen nhw i gyd yn ennill rhywfaint o bres y mae ei wir angen yn y diwedd. Mae newydd-ddyfodiad yn ymuno â’r pentref drwy adael y llong.
Yn eu 3edd wythnos, mae’r 4 teulu’n cael anhawster gyda realiti bywyd fwy na chanrif yn ôl. Efallai eu bod wedi setlo i fywyd 1900 ond nid yw hynny’n gwneud bywyd yn haws o gwbl. Ar ddechrau’r wythnos, mae’r gymuned yn ymddangos ar ei mwyaf bregus wrth i wahanol flaenoriaethau ac agweddau at fywyd ddechrau dod i’r amlwg.
Wrth i’r tywydd wella, mae’r dynion yn mynd allan i’r môr am drip pysgota estynedig o 3 diwrnod a 2 noson, gan adael eu gwragedd a’r plant adref ar eu pen eu hunain. Ond allan ar y môr mae’r dynion yn cael anhawster dal unrhyw beth ddydd ar ôl dydd, ac nid yw eu gwragedd yn gwybod a ydynt yn ddiogel ai peidio.
Ar ddechrau eu pedwaredd wythnos, gyda dalfa funud olaf o bysgod, mae’r 4 teulu modern yn wynebu eu dyddiau olaf. Ond wrth i’r byd y tu allan darfu arnynt, mae mecanwaith modern yn cyrraedd eu hafan wledig, mae prisiau’n gostwng ac mae ysgytwad annisgwyl i’r dynion a’r merched ar ynys Llanddwyn. Mae’n rhaid iddynt ddechrau hel cocos a chregyn pysgod i gael deupen llinyn ynghyd. Ond wrth i un teulu adael yr ynys yn gynnar, mae’r lleill yn dechrau sylweddoli nad yw eu diwedd hwy ymhell chwaith a bod eu dyddiau ar ynys 1900 ar fin dod i ben. Mae’n ffarwel melys os dagreuol i bawb wrth iddyn nhw adael cynhesrwydd y perthnasoedd agos a’r gymuned maent wedi’i chreu a mynd yn ôl i’r byd modern.
Cynhyrchydd / Cyfarwyddwr y Gyfres: Alexis Girardet