Being First Minister

BBC One Wales

Ffilm ddogfen yn dilyn Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ystod ei fisoedd olaf yn ei swydd.

Gyda mynediad na chafwyd ei debyg o’r blaen y tu ôl i’r llenni, mae’r ffilm yn ei ddangos ef a’i dîm yn paratoi ar gyfer Cwestiynau’r Prif Weinidog. Mae camerâu’n ei ddilyn i gyfarfodydd allweddol mewn cyfnod cythryblus i wleidyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt, gan ddatgelu sut brofiad yw bod yn Brif Weinidog Cymru. Mae’r rhwystredigaethau a’r heriau’n glir gyda chyni’n hawlio’r sylw yn nhrafodaethau’r gyllideb; canlyniad y refferendwm ar adael yr UE; ac yn amlwg iawn, marwolaeth drasig ei ffrind a’i gydweithiwr, Carl Sargeant. Mae’r ffilm yn mynd y tu ôl i ddrysau caeedig yn y Senedd a gartref i ffilmio Carwyn Jones wrth ei waith a’r tu allan iddo, gan adlewyrchu’n onest ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei naw mlynedd yn y swydd.

Rhaglen ddogfen unigol, yn para awr, ar gyfer BBC One Wales

Share This