Frank Lloyd Wright: The Man Who Built America

BBC Two Wales & BBC Four

Frank Lloyd Wright yw pensaer gorau America erioed. Yn ystod gyrfa a barodd am saith degawd, adeiladodd fwy na phum cant o adeiladau, gan newid gwedd pensaernïaeth fodern.

Mae Fallingwater, y tŷ uwch ben y rhaeadr, wedi cael ei alw’n dŷ gorau’r ugeinfed ganrif. Mae amgueddfa droellog y Guggenheim yn Efrog Newydd wedi ailddyfeisio amgueddfeydd celf. Ond beth yw’r athroniaeth sylfaenol sy’n cysylltu holl adeiladau Wright, ac o ble y daeth? Mae’r pensaer blaenllaw o Gymru, Johnathan Adams, yn cychwyn ar siwrnai ar draws America i astudio campweithiau Frank Lloyd Wright drosto’i hun. Ar y daith, mae’n datgelu stori’r dyn y tu ôl iddyn nhw, a’i wreiddiau Cymreig radical.

BBC Four – 29ain Awst 2017

Cynhyrchu a Chyfarwyddo: Ian Michael Jones

Share This